Holi’r Arbenigwr Mis Tachwedd: Atebion i’ch Cwestiynau Digidol

Dydd Llun 23 Tachwedd 2020

Learning lightbulb thumbnail

Ymunwch â ni drwy gydol mis Tachwedd wrth i hyfforddwr Cyflymu Cymru i Fusnesau, Austin Walters, ateb eich cwestiynau am y byd digidol.

Fe wnaethoch chi ofyn: Sut mae modd i mi werthu ar-lein?

Heddiw mae pob math o atebion o ran gwerthu ar-lein. Fe allech chi greu siop e-fasnach gyda WordPress a WooCommerce, neu fe allech chi ddefnyddio “siop ar-lein” barod fel Shopify. Mae manteision ac anfanteision i’r ddau. Mae Shopify wedi ei adeiladu’n barod, yn cael ei gynnal yn benodol ar eich cyfer chi, ac mae’n cynnwys llawer o nodweddion sydd wedi eu cynnwys yn barod. Y cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud yw sefydlu manylion eich cwmni, mewnbynnu’r cynnyrch, cadarnhau costau cludo a phostio, a mynd yn fyw. Darllenwch ein canllaw Shopify am ragor o wybodaeth.

Gyda WordPress a WooCommerce, rydych chi’n dechrau o’r dechrau ac yn adeiladu’r wefan yn gyntaf, yna rydych chi’n ychwanegu eich holl gynnyrch, ac ati.

Ni allwn anwybyddu platfformau fel Amazon, eBay, Etsy a marchnadoedd eraill sy’n dod i’r amlwg, chwaith. Anfantais ganfyddedig gwerthu eich cynnyrch drwy’r llwyfannau hyn yw eich bod yn talu comisiwn ar bob gwerthiant. Fodd bynnag, mae hynny’n cynnwys un fantais enfawr, sef bod bod torf barod o brynwyr awyddus yn gweld eich cynnyrch.

Os ydych chi’n gwerthu gwasanaethau yn hytrach na chynnyrch, mae’n bosibl y byddwch chi eisiau gwefan anfasnachol neu ddull gwerthu wedi ei hidlo, o bosibl. Ystyriwch farchnadoedd fel fiverr a People Per Hour hefyd.

Dewch i wybod mwy yn ein gweminarau marchnata digidol, gwefannau, ac optimeiddio peiriannau chwilio am ddim.

<< Yn ôl at Newyddion