Profion Covid-19 am ddim i bobl sy’n methu â gweithio gartref

Dydd Llun 19 Ebrill 2021

Bydd pobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref yn cael cynnig pecynnau hunanbrofi ar gyfer Covid-19 cyflym ac am ddim o yfory ymlaen (dydd Gwener 16 Ebrill).

Bydd y profion asymptomatig ddwywaith yr wythnos ar gael i bobl na allant weithio gartref a’u haelwydydd i’w casglu o faes parcio’r Ganolfan Fowlio ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhwng 8am-1pm, saith diwrnod yr wythnos. Nid oes rhaid trefnu apwyntiad.

Ar ôl casglu’r profion, bydd angen i bobl fynd â’r prawf adref i’w ddefnyddio, ni chânt eu gwneud yn y ganolfan brofi.

Ar hyn o bryd, cynigir profion cyflym, neu brofion llif unffordd i’r grwpiau canlynol a dylent barhau i ddefnyddio eu profion fel y gwnânt nawr:

  • Gweithwyr y GIG a gofal cymdeithasol
  • Athrawon a darparwyr gofal plant
  • Dysgwyr o Flynyddoedd 7 ac uwch yn cynnwys myfyrwyr prifysgol
  • Gweithleoedd gyda 10 neu fwy o weithwyr sydd wedi cofrestru dan y rhaglen profi gweithleoedd

Bob prynhawn bydd safle maes parcio’r Ganolfan Fowlio yn cau am 1pm ar gyfer glanhau trylwyr cyn ailagor am brofion PCR asymptomatig rhwng 2pm-8pm bob dydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y profion cyflym yn gam pwysig ymlaen tuag at symud allan o’r cyfnod clo yn ddiogel wrth i fwy o gyfyngiadau gael eu llacio yn raddol, gan ychwanegu nad yw 1 o bob 3 sy’n dioddef o’r coronafeirws yn profi unrhyw symptomau a’u bod yn ei ledaenu heb yn wybod, o bosib.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae profion cyflym ddwywaith yr wythnos yn ein galluogi i ddod o hyd i’r achosion hyn ac atal yr haint rhag lledaenu ymhellach.

“Mae’n bwysig bod hyd yn oed y rheiny sydd wedi cael y brechlyn yn defnyddio’r profion ddwywaith yr wythnos gan y gallant gario’r feirws a’i drosglwyddo i eraill o hyd.”

Mae’r profion yn hawdd eu defnyddio a gallant roi canlyniadau mewn 30 munud. Argymhellir cymryd y profion yn y bore a 3 i 4 diwrnod ar wahân.

Os oes canlyniad prawf llif unffordd positif, dylai’r person hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf Covid (prawf PCR) o fewn 24 awr drwy ffonio 119, ar-lein neu drwy ap Covid-19 y GIG.

Os oes canlyniad negyddol, yna dylid cymryd prawf arall 3 i 4 diwrnod yn ddiweddarach. Fodd bynnag, os datblygir symptomau’r coronafeirws yn ystod yr amser hwnnw, dylid trefnu prawf Covid.

Rhaid cofnodi pob prawf – negyddol a phositif ar-lein yma: https://www.gov.uk/report-covid19-result (External link – Opens in a new tab or window)

Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar agor lleoedd eraill ar gyfer casglu pecynnau hunanbrofi yn ogystal â’u danfon i gartrefi pobl.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am brofion llif unffordd (External link – Opens in a new tab or window) ar wefan Llywodraeth Cymru.

<< Yn ôl at Newyddion