Grant Gwella Eiddo ar gael yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Llun 27 Ebrill 2020

Before and after photo of retail unit

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar y cŷd â Llywodraeth Cymru, wedi sicrhau cyllid i gefnogi prosiect gwella eiddo o fewn Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr; lle bydd cymorth ariannol yn cael ei ganiatáu ar gyfer gwelliannau i eiddo a busnesau o fewn Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r cyllid ar gael hyd at fis Mawrth 2021, gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn hyd at 21/22.

Bwriad y cyfle hwn i fuddsoddi yw:

  • Gwneud busnesau yn fwy deniadol a hygyrch i gwsmeriaid;
  • Cryfhau gweithgarwch busnes a gwedd canol y dref;
  • Creu a chynnal cyflogaeth leol;
  • Diogelu a chynnal siopau a gwasanaethau lleol;
  • Cynyddu nifer yr ymwelwyr a gweithgarwch yn y dref 

Mae Tîm Adfywio’r Cyngor yn awyddus i dderbyn cymaint o fynegiannau o ddiddordeb â phosib, er mwyn asesu a symud ymlaen at geisiadau llawn, a gyda lwc, dyfarnu cyllid.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Adfywio, Cyng Charles Smith: “Bwriad y cyfle hwn i fuddsoddi yw gwneud busnesau yn fwy deniadol a hygyrch i gwsmeriaid, cryfhau gweithgarwch busnes a gwella gwedd canol y dref, a chreu a chynnal cyflogaeth leol.

“Mae hefyd yn ceisio diogelu a chynnal siopau a gwasanaethau lleol, a chynyddu’r nifer o ymwelwyr a gweithgarwch yn y dref, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

“Rydym yn annog perchnogion eiddo a busnesau i ymgeisio nawr er mwyn gwneud y mwyaf o’r cynllun grant hwn – gellir ymgeisio ar gyfer grantiau a’u dyfarnu o hyd ar hyn o bryd.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am grant, neu eisiau mwy o fanylion, e-bostiwch: regeneration@bridgend.gov.uk

 

<< Yn ôl at Newyddion