Prosiect Gwella a Ffynnu Pen-y-bont ar Ogwr yn lansio menter dros dro

Dydd Llun 17 Ionawr 2022

Mae Prosiect Gwella a Ffynnu Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio menter dros dro yn swyddogol, wedi’i chynllunio i wahodd busnesau i dreialu syniad ar ffurf siop fflach.

Bydd y prosiect yn gweithio drwy ddatblygu cyfres o fentrau dros dro i greu cyfleoedd ar gyfer busnesau newydd a busnesau micro dyfu, annog mwy o ymwelwyr i dreulio rhagor o amser yn y dref, a galluogi gwell gwytnwch gyda dull ‘cyflymach, ysgafnach a rhatach’ i brofi cyfres o newidiadau.

Bydd hefyd yn cynnig cymorth mentora, wedi’i dargedu at y busnesau hynny sydd ei angen, yn cynorthwyo cwmnïau i gyflwyno cynnyrch newydd, gwarchod swyddi ac yn cefnogi’r gwaith o greu busnesau newydd.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.

Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb.

<< Yn ôl at Newyddion