Rhestr wirio a chynllun gweithredu ar gyfer aflonyddu rhywiol yn y diwydiant lletygarwch ar gael

Dydd Gwener 20 Mai 2022

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi lansio rhestr wirio a chynllun gweithredu er mwyn helpu cyflogwyr y diwydiant lletygarwch i fynd i’r afael ag achosion o aflonyddu rhywiol yn erbyn eu staff.

Canfu astudiaeth ddiweddar fod dros hanner y merched a dau draean y bobl LGBT+ sy’n dweud eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn y sector lletygarwch.

Mae’r adnoddau’n cynnwys cyngor ynghylch diogelu ac atal ar gyfer lleoliadau lletygarwch, sy’n cynnwys polisïau cyson i’w rhoi ar waith er mwyn mynd i’r afael â chwsmeriaid sy’n ymddwyn mewn ffordd anaddas o amgylch staff, neu ofyn i un aelod o staff weini ar grŵp mawr o bobl, gan gynyddu’r risg o aflonyddu rhywiol.

Er bod EHRC wedi cydweithio’n agos â’r diwydiant lletygarwch i ddatblygu’r canllawiau hyn, gellir eu defnyddio mewn unrhyw ddiwydiant a lleoliad gwaith.

Dysgwch fwy am yr adnoddau.

<< Yn ôl at Newyddion