Sgwrs TEDx yn dod i Nant-y-moel

Dydd Mercher 1 Tachwedd 2023

Mae digwyddiad wedi’i drefnu gan TEDx, a fydd yn cynnwys siaradwyr gwadd, yn dod i Nant-y-moel.

Wedi’i sefydlu yn 2009, mae TEDx yn rhaglen o ddigwyddiadau wedi’u trefnu’n lleol sy’n dod â chymunedau ynghyd i rannu eu profiadau. Mae rhai sgyrsiau TEDx wedi cael miliynau o wylwyr o gynulleidfaoedd ledled y byd.

Daeth TEDxNantymoel i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf yn 2020, a bydd digwyddiad eleni’n cael ei gynnal yng Nghanolfan Gymunedol MEM ddydd Sul 19 Tachwedd, o 10am tan 4pm, a thema’r digwyddiad fydd “Calon y Gymuned”.

Mae siaradwyr eleni’n cynnwys:

  • Paul Stepczak o Cwmpas
  • Amanda Powell, awdur a newyddiadurwraig
  • Martin Griffiths, seryddwr gydag Awyr Dywyll Cymru
  • Rob Jones, arbenigwr ymddygiad addysgol o DASH Mental Health, Wellbeing & Behaviour
  • Cerys Keneally, hyfforddwr darparwyr gweithgareddau i blant, sydd wedi ennill gwobrau
  • Daniel Lock, Cynullydd Tirwedd, Diwylliant a Hunaniaeth o Barc Rhanbarthol y Cymoedd
  • Kate Wood, perchennog The Craft Junction
  • Esther Thompson, perchennog The Brother’s Café
  • Corin Morgan-Armstrong, trefnydd y prosiect Waliau Anweladwy

Ffi tocynnau’r digwyddiad yw £8.50, a bydd yn cynnwys cinio bwffe.

Dysgu mwy a phrynu tocyn.

<< Yn ôl at Newyddion