Mae sba leol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi’i henwebu ar gyfer gwobr ‘Sba’r Flwyddyn’ yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch Cymru.
Nod y noson wobrwyo yw dathlu busnesau o fewn y diwydiannau gwallt a harddwch sydd wedi cynnig gwasanaeth cwsmer rhagorol i drigolion.
Mae Stepping Stone Spa yng Ngwesty Heronston ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn un o ddeg sba ar restr fer gwobr ‘Sba’r Flwyddyn’.
Dywedodd Carolyn Powell, y Rheolwr Cyffredinol, “Rydym ar ben ein digon o fod wedi ein henwebu ac am gyrraedd y rownd derfynol. Mae tîm ein sba wedi gweithio’n eithriadol o galed i ddatblygu ein sba, ac rydym bob amser yn ceisio gwella safon a lefel ein gwasanaeth. Mae cyrraedd y rownd derfynol yn glod i’w holl waith caled.”
Bydd y sba’n cael gwybod a ydynt wedi ennill yn y seremoni wobrwyo yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul 29 Mai.
Dysgwch fwy am y seremoni wobrwyo.
Dilynwch ni