Sut mae grantiau gwelliannau awyr agored yn cefnogi busnesau lleol

Dydd Gwener 9 Ebrill 2021

Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo llacio, mae nifer o fusnesau a sefydliadau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn cyllid i wneud addasiadau awyr agored a fydd yn helpu i gadw eu cwsmeriaid yn ddiogel.

Gan ddefnyddio arian gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, tasglu’r Cymoedd a menter Buddsoddiad Adfywiad Targedig Llywodraeth Cymru, mae’r Gronfa Adfer Wedi Covid-19 Gwelliannau Awyr Agored wedi targedu ardaloedd allanol lle mae cwsmeriaid ac aelodau o’r cyhoedd yn ymgynnull, yn ymlacio neu’n mwynhau bwyd a diod.

Mae perchnogion busnes ac eiddo masnachol wedi gallu ymgeisio am grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer addasiadau yn amrywio o ganopïau a dodrefn awyr agored i banwyr, gwres awyr agored, sgriniau a mwy.

Mae’r grant yn cynnig cyllid o hyd at 80 y cant neu uchafswm gwerth o £10,000 o gyfanswm y costau gwella cymwys, gydag o leiaf 20 y cant o gyfanswm costau’r prosiect yn cael ei dalu gan yr ymgeisydd.

Hyd yn hyn, mae 58 o fusnesau lleol wedi elwa o’r cynllun, ac mae ceisiadau pellach yn cael eu prosesu ar hyn o bryd. Mae busnesau sydd wedi eu cefnogi hyd yn hyn yn cynnwys:

  • The Potting Shed
  • Wiggley’s Fun Farm
  • The Caeffatri
  • Jolly Sailor
  • Adventure Activity Centre
  • Prince of Wales
  • Clwb Tennis Pen-y-bont ar Ogwr
  • Harrys Bar
  • The Pen-y-bont
  • Uned 1 – The Esplanade
  • The Three Horseshoes
  • The Sidewalk Café
  • Clwb Fowlio Dref Pen-y-bont ar Ogwr
  • Casey’s Café
  • Deintyddfa Talbot
  • Iced Gems
  • Il Panino
  • Huna Bar
  • Gwesty Coed y Mwstwr
  • Angel Inn
  • Hi-Tide Inn
  • The Royal Oak
  • The Three Horseshoes
  • Wickhams Stores
  • Oddfellows
  • El Prado
  • The Globe
  • Tino Sidoli
  • Clwb Rygbi Pêl-droed Pencoed
  • Clwb Rygbi Mynydd Cynffig
  • Clwb Criced Maesteg
  • Clwb Rygbi Pêl-droed Tondu
  • The Federation Bar
  • The Coach
  • The Old Bakery Café
  • Deano’s Café
  • The Welsh Deli
  • The McNamara Arms
  • The Fruit Bowl
  • Fablas
  • Finnegans (Heol Newydd)
  • Finnegans (Stryd y Ffynnon)
  • Janz Art
  • Pafiliwn y Grand
  • Amgueddfa Porthcawl
  • Crumbs
  • The Corner House
  • The Old House
  • The Blaenogwr
  • Llangeinor Arms
  • Maesteg Celtic Ltd
  • Clwb Cymdeithasol a Chwaraeon Dynion Heol-Y-Cyw
  • Clwb Rygbi Pêl-droed Heol y Cyw
  • Clwb Criced Maesteg
  • Ysgol Ddawns Sian
  • Parc Gwledig Bryngarw

Charles Smith, Aelod Cabinet dros Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

“Rwy’n falch o weld busnesau ledled y fwrdeistref sirol yn gwneud defnydd o’r cynllun hwn, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol.

“Mae masnachwyr wedi wynebu nifer o heriau yn ystod y pandemig, felly rydym yn falch o gefnogi’r gwelliannau hyn a fydd yn galluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol wrth ddefnyddio ardaloedd allanol y busnesau hyn, p’un a ydynt yn disgwyl, yn bwyta neu’n gorffwys.

“Atgoffir busnesau, wrth wneud cais am grant fel hwn neu dderbyn grant fel hwn, fod yn rhaid i chi hefyd gofio gwirio i weld a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw welliannau y gallech fod wedi’u cynllunio.”

<< Yn ôl at Newyddion