Taflen Ffeithiau Cymorth Biliau Ynni bellach ar gael

Dydd Gwener 28 Hydref 2022

Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru ei Thaflen Ffeithiau Cymorth Biliau Ynni ac wedi nodi camau gweithredu i gefnogi busnesau gyda’u biliau ynni ledled y DU.

Mae’r daflen ffeithiau’n cynnwys:

  • Cymorth i aelwydydd
  • Cymorth i fusnesau ac eiddo annomestig
  • Diwygio er mwyn mynd i’r afael â phroblemau hirdymor yn sector ynni’r DU
  • Cymorth a chefnogaeth arall sydd ar gael

Mae’r daflen ffeithiau yn dilyn cyhoeddiad cynllun 6 mis newydd i fusnesau a fydd yn cynnig cymorth tebyg gyda biliau ynni. Bydd y Cynllun Cymorth Biliau Ynni yn helpu busnesau i gael gostyngiadau rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023.

Rhagor o wybodaeth am y daflen ffeithiau wedi’i diweddaru.

<< Yn ôl at Newyddion