Tocynnau bellach ar gael ar gyfer Ysgogi 2023

Dydd Gwener 10 Chwefror 2023

Mae cynhadledd Ysgogi 2023 yn dychwelyd i Gymru, gyda thocynnau bellach ar gael ar gyfer busnesau.

Mae’r gynhadledd Ysgogi yn ddigwyddiad un diwrnod, lle all busnesau fanteisio ar yr adnoddau diweddaraf ar ehangu a darganfod y cyfleoedd diweddaraf ar draws y diwydiannau.

Wedi’i leoli yn ICC Cymru, ddydd Mercher 26 Ebrill, bydd y digwyddiad am ddim yn cynnwys:

  • Brecwast, cinio, coffi a diodydd gyda’r nos am ddim
  • Gweithdai rhyngweithiol, yn rhannu arferion busnes gorau
  • Cyfle i rwydweithio gyda phob math o bobl
  • Siaradwyr a fydd yn cynnig cyngor ac yn cyflwyno eu harferion gorau

Caiff y digwyddiad ei drefnu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a phartneriaid eraill.

Rhagor o wybodaeth a mynnu tocyn.

<< Yn ôl at Newyddion