Bydd Cymal Wyth Tour of Britain yn gwibio drwy Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fis nesaf, a chaiff busnesau eu hannog i gymryd rhan gyda chanllaw am ddim.
Bydd Tour of Britain yn dechrau ddydd Sul 3 Medi yn Altrincham, ac yn gorffen yng Nghaerffili ddydd Sul 10 Medi, yn dod trwy Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar yr un diwrnod. Mae’r llwybr llawn i’w weld ar eu gwefan.
Mae dros filiwn o bobl yn gwylio’r ras bob blwyddyn, ac mae Tour of Britain wedi cyhoeddi canllaw sy’n cynnig syniadau i fusnesau ynghylch manteisio i’r eithaf ar y niferoedd uwch o ymwelwyr yn ystod y digwyddiad.
Dysgwch fwy a lawrlwythwch y canllaw.
Dilynwch ni