Mae Markes International, un o gwmnïau allforio mwyaf blaenllaw Cymru, wedi arwyddo prydles 15 mlynedd yn Central Park yn Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r cwmni’n gweithgynhyrchu offer sy’n gallu adnabod olion cemegion yn yr atmosffer i gleientiaid byd-eang.
Mae Markes International yn symud o Lantrisant i Ben-y-bont ar Ogwr, lle mae adeilad yn cael ei adnewyddu gan ei berchennog, Wendon, gyda £2 miliwn o arian ychwanegol gan Fanc Datblygu Cymru.
Bydd y cwmni’n cyflogi 140 o aelodau staff yn y Pencadlys newydd, ac mae ganddo weithlu byd-eang gyda 180 o staff.
Dywedodd Tim Hawkins, cyfarwyddwr gweithredol Markes International: “Mae ein busnes wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn parhau i fod yn flaenllaw o ran dadansoddi cyfansoddion organig yn yr aer rydym yn ei anadlu, y cynnyrch rydym yn eu defnyddio a’r bwyd rydym yn ei fwyta.
“Mae gennym uchelgeisiau i dyfu yn y tymor hir, ac mae’r safle hwn yn ein galluogi ni i’w gwireddu nhw, yn ogystal â darparu amgylchedd gweithio gwell i’n pobl.”
Dilynwch ni