Mae Venture Graddedigion wedi lansio cyfres o sesiynau bŵtcamp digidol ar gyfer graddedigion a busnesau ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Bydd y fenter Venture into Digital Bootcamps yn galluogi busnesau ar draws De Cymru i fod yn rhan o’r rhaglen Venture Graddedigion, sy’n paru graddedigion gyda busnesau addas, gan ddod â bywyd newydd i’r diwydiannau hynny.
Bydd gan fusnesau’r cyfle i ddewis graddedigion sy’n bodloni eu gofynion yn dilyn rhaglen hyfforddiant yn para 3 wythnos drwy gyfres o sesiynau bŵtcamp unigryw sy’n ymwneud â Seibrddiogelwch, Data a Digidol.
Bydd yr holl fusnesau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad lansio ddydd Gwener 4 Medi.
Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb.
Dilynwch ni