3 rheswm pam mae angen System ‘CRM’ ar eich busnes bach

Dydd Gwener 24 Mehefin 2016

Mae Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) yn ffordd hawdd i fusnes reoli ei holl ryngweithio â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid. Bydd diffinio strategaeth CRM yn sicrhau bod prosesau eich busnes yn hwylus ac effeithlon, tra gall mwy o ymwybyddiaeth helpu’ch busnes i wella cysylltiadau, cadw cwsmeriaid a hybu elw hirdymor.

Yn benodol, mae system CRM yn galluogi busnesau i reoli proses y cwsmer trwy lunio gwybodaeth o sawl sianel wahanol, gan gynnwys y wefan, y ffôn, yr e-bost, sgwrsio byw, deunyddiau marchnata a chyfryngau cymdeithasol. O gael trosolwg clir, gall y busnes a thimau penodol (fel gwerthu a marchnata) ymwneud â chwsmeriaid yn well, gweld cyfraddau trosi gwell a chynyddu elw.

Dyma 3 rheswm allweddol pam mae system CRM yn bwysig i fusnesau o bob maint (nid dim ond cwmnïau mawr!)

1. Trefnu

Heb lwyfan pwrpasol ar gyfer cadw a mynd at ddata cwsmeriaid, mae’n hawddd colli neu anwybyddu gwybodaeth bwysig. Gyda phopeth wedi’i storio’n ddibynadwy yn yr un lle, bydd hi’n haws gwneud synnwyr o ddata cwsmeriaid a dilyn sgyrsiau i fyny yn effeithiol. O gael trosolwg trefnus o’r ffordd y bu cwsmer yn rhyngweithio â’ch busnes yn flaenorol, byddwch yn arbed amser ac ymdrech a fyddai, fel arall, wedi’i dreulio’n mynd dros hen dir gyda chwsmeriaid a allai eisoes fod wedi ymwneud â chi.

2. Gwella gwasanaeth i gwsmeriaid

Os nad ydych chi’n rheoli eich perthynas â chwsmeriaid yn effeithiol, yna gallai eich busnes fod yn colli allan ar sgyrsiau pwysig a chyfleoedd trosi. Nid yn unig y mae hyn yn golygu’r posibilrwydd o golli gwerthiannau, ond gallech fod yn anwybyddu cwsmeriaid ac, o ganlyniad, yn eu troi rhag eich busnes. Bydd system CRM yn eich galluogi chi i sicrhau eich bod yn dilyn pob cwsmer i fyny ac yn eu trin fel unigolion pwysig.

3. Amlygu posibiliadau a’u dilyn i fyny

Gall system CRM helpu’ch tîm gwerthu i amlygu posibiliadau yn gyflym a’u categoreiddio. Trwy gael y wybodaeth fwyaf cywir a chynhwysfawr sydd ar gael, gall eich tîm adolygu ymhle y mae cleientiaid a chwsmeriaid yn y daith werthu, a sut a phryd y cysylltwyd â nhw. Gall hyn ganiatáu i’r tîm ddilyn posibiliadau i fyny yn y modd mwyaf effeithiol a gostwng amseroedd ymateb. O ganlyniad, gall staff gwerthu ganolbwyntio’u sylw a’u hamser ar y cyfleoedd gorau, ochr yn ochr â gallu adolygu’r sianeli mwyaf effeithiol ar gyfer dod o hyd i bosibiliadau.

Mae defnyddwyr bellach yn defnyddio amryw sianeli i gyfathrebu â busnesau, felly gall fod yn hawdd iawn colli trywydd ar gyfleoedd pwysig i ymgysylltu â nhw a’u troi’n gwsmeriaid. Gall llwyfan CRM helpu i chi gael golwg glir ar eich holl gysylltiadau â chwsmeriaid, caniatáu i dimau gwerthu gysylltu ar yr adegau gorau a sicrhau eich bod chi’n cynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

<< Yn ôl at Blog