Fareshare Cymru yn lansio cronfa ‘Bwyd Dros Ben Ag Amcan’

Dydd Gwener 21 Hydref 2022

Mae Fareshare Cymru wedi lansio cyllid yn swyddogol ar gyfer busnesau bwyd a diod o bob maint ledled Cymru.

Mae Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru yn agored i gwmnïau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd â bwyd sy’n fwytadwy, ond sy’n cael ei wastraffu oherwydd costau neu am fod y bwyd yn anaddas ar gyfer defnydd masnachol. Nod y gronfa yw goresgyn y rhwystrau mae busnesau’n eu hwynebu wrth ail-ddosbarthu bwyd dros ben i elusennau ledled Cymru.

Mae’r gronfa’n gallu helpu gyda chostau tasgau fel:

  • Llafur
  • Pecynnu
  • Rhewi
  • Cynaeafu
  • Cludo

Mae Fareshare Cymru yn gweithio gyda dros 500 o gwmnïau ar draws y gadwyn gyflenwi i helpu i ail-ddosbarthu bwyd dros ben i 188 o elusennau ledled Cymru, o lochesi trais domestig i hosteli di-gartref.

Dysgu mwy a gwneud cais am y cynllun.

<< Yn ôl at Newyddion