Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig lle i fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gymryd rhan mewn digwyddiad ynni’r môr sydd ar y ffordd.
Bydd y Gynhadledd Ryngwladol ar Ynni’r Môr (ICOE) ac Ocean Energy Europe yn cyd-gynnal y digwyddiad rhwng 18 a 20 Hydref yn San Sebastián, Sbaen a fydd yn cynnwys y rhwydwaith mwyaf o weithwyr proffesiynol ym maes ynni’r môr yn y byd.
Bydd y rhaglen yn gymysgedd o ymchwil a datblygu trawsbynciol yn ogystal â thrafod sut i’w rhoi ar waith ar raddfa ddiwydiannol. Gall roi cyfle i fusnesau arddangos eu cwmni, ennill cysylltiadau gwerthfawr a datblygu allforion yn y sector hwn.
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnig lleoedd i fusnesau o Gymru sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r Gynhadledd ICOE/Ocean Energy Europe. Mae’n cynnig dau becyn gwahanol sy’n cynnwys tocynnau i ddau gynrychiolydd, llety, hediadau a mwy.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am y pecynnau yw dydd Iau 29 Gorffennaf 2022.
Dysgwch fwy, gwiriwch eich cymhwystra ac ymgeisiwch.
Dilynwch ni