Gall busnesau wneud cais am gymorth busnes gan Lywodraeth Cymru

Dydd Iau 26 Mawrth 2020

Coronavirus Business support

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cefnogi ar gyfer busnesau penodol sydd ar restr y gofrestr ardrethi busnesau.

Mae’r pecyn newydd yn cynnwys gwyliau ardrethi busnes blwyddyn o hyd ar gyfer busnesau gwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru, gyda gwerth ardrethol o lai na £500,000. Byddwn yn ceisio dyfarnu’r gwyliau ardrethi busnes yn awtomatig i bob parti cymwys cyn gynted ag y bo modd, a byddwch yn derbyn bil newydd pan fo’r dyfarniad wedi ei roi. Bydd grant o £25,000 hefyd yn cael ei gynnig i fusnesau yn y sectorau hyn gyda gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.

Mae pecyn Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys grant o £10,000 i bob busnes sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethu Busnesau Bach gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.

I sicrhau ceisiadau grant cyflym ac effeithlon, byddwn yn gofyn ichi gwblhau’r ffurflen ar-lein hon

Gall busnesau hefyd chwilio am werth ardrethol eu heiddo ar-lein

Cyn gynted ag ein bod wedi asesu eich cais, yn ddarostyngedig ar feini prawf yn cael eu bodloni, byddwn yn gwneud dyfarniad yn syth ichi drwy’r broses talu BACS.

Wedi ichi wneud eich cais, byddwn yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth beidio â ffonio yn syth wedyn.

Rydym yn gwerthfawrogi’r heriau y mae eich busnes yn eu hwynebu, a bydd ein staff yn gwneud eu gorau glas i sicrhau eich bod yn derbyn eich taliad cyn gynted ag y bo modd.

Rydym yn anelu at sicrhau eich bod yn derbyn pob taliad cyn gynted ag y bo modd o ddyddiad derbyn eich cais.

<< Yn ôl at Newyddion