Mae Mynegiadau o Ddiddordeb ar gyfer Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr yn awr ar agor

Dydd Mawrth 2 Ebrill 2024

Gall busnesau yn awr gofrestru eu diddordeb ar gyfer Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr, sef cynllun newydd sy’n helpu i hyrwyddo lleoliadau gwaith cyflogedig tymor byr.

Bydd y cynllun hwn yn helpu preswylwyr ar draws Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau lleoliadau gwaith cyflogedig tymor byr gyda busnesau.

Bydd y cynllun yn rhedeg rhwng Mai 2024 ac Ionawr 2025 a dylai busnesau sydd â diddordeb ynddo gofrestru eu diddordeb cyn gynted â phosib.

Dylai busnesau nodi yr isod:

  • Bydd y lleoliadau am o leiaf 25 awr yr wythnos.
  • Ni ddylai’r swyddi gymryd lle swyddi sy’n bodoli eisoes neu rai sydd wedi’u cynllunio; ni ddylent fod yn dymhorol, a/neu yn achosi i weithwyr, prentisiaid neu gontractwyr presennol golli gwaith neu gael eu horiau gwaith wedi eu lleihau.
  • Mae angen i’r lleoliadau fod dros 16 wythnos a mwy a hyd at 24 wythnos a bod wedi dod i ben erbyn 31ain Ionawr 2025.
  • Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer y lleoliad gwaith cyflogedig fod dros 18 oed ond nid oes uchafswm oedran.
  • Yr isafswm cyflog o 1 Ebrill 2024 ar gyfer rhai 21 oed a throsodd yw £11.44 ac ar gyfer rhai sydd rhwng 18 a 20 oed, £8.60.
  • Bydd y cyflogau yn cael eu talu fel ôl-daliad drwy broses hawlio felly bydd angen i’r cwmnïau sy’n gysylltiedig â hyn fod â’r llif arian er mwyn talu allan cyn iddynt gael eu digolledu ac i dalu’r cyfraniadau perthnasol i CThEF cyn cael eu digolledu gan brosiect Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd ceisiadau yn cau ar ddydd Gwener 12 Ebrill, ond mae’n bosib y byddant yn agor ar ddyddiad pellach yn dibynnu ar y galw.

Dysgwch fwy a gwnewch gais.

<< Yn ôl at Newyddion