Mae busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu rhybuddio am lythyr sgam sy’n honni iddo fod gan Lywodraeth y DU yn dweud wrth gwmnïau bod angen iddynt brynu dyfeisiau puro aer canfod Covid-19.
Mae’r Rhwydwaith Gwrth-dwyll Cenedlaethol (NAFN) yn dweud bod yr ohebiaeth yn honni ei bod gan Dasglu Covid, rhan o’r Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ac yn defnyddio’i logo.
Y cyfeiriad ar y llythyr yw eiddo preswyl yn Llundain ac mae’n dweud ei fod yn rhoi gwybod am newid yn y gyfraith i fusnesau a’r gofyniad i osod “puryddion aer Covid-ddiogel” o 3 Mai 2021. Mae’n nodi y gallai methu â chydymffurfio arwain at ddirwyon hyd at £5,000.
Dywed BEIS fod y llythyrau’n gwbl anwir ac mae’n ymchwilio i’r mater. Nid oes gofyniad cyfreithiol i fusnesau osod puryddion o’r fath.
Dim ond gan ffynonellau dibynadwy y dylai busnesau gael cyngor, fel Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, ac os oes amheuaeth, dylent gysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am arweiniad.
Os byddwch yn derbyn un o’r llythyrau hyn, rhowch wybod i NAFN drwy e-bostio intel@nafn.gov.uk.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael i fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i dudalen we’r cyngor.
Dilynwch ni