Chwe cham gweithredu
Dydd Mawrth 26 Ionawr 2021
Y chwe cham gweithredu allweddol y gall fod angen i lawer o gwmnïau eu cymryd yw:
- Nwyddau – os ydych yn mewnforio nwyddau o’r UE neu’n allforio nwyddau i’r UE, rhaid i chi gael rhif EORI, gwneud datganiadau tollau tramor neu gyflogi asiant i wneud y rhain drosoch, gwirio a oes angen papurau ychwanegol ar eich nwyddau (fel cynhyrchion planhigion neu anifeiliaid) a siarad gyda’r busnes yn yr UE yr ydych yn masnachu gydag ef i wneud yn siŵr eu bod yn cwblhau’r gwaith papur cywir gan yr UE. Mae rheolau arbennig yn berthnasol i Ogledd Iwerddon hefyd. Rhaid i gludwyr gael Hawlen Mynediad Caint a chael prawf Covid negatif cyn eu bod yn ei throi hi am y porthladd yng Nghaint.
- Gwasanaethau – os ydych yn darparu gwasanaethau ar gyfer yr UE, rhaid i chi wirio a yw eich cymhwyster proffesiynol yn cael ei gydnabod gan y corff rheoleiddio priodol yn yr UE.
- Pobl – os oes arnoch angen cyflogi staff crefftus o’r UE, rhaid i chi wneud cais i fod yn noddwr trwyddedig.
- Teithio – os oes angen i chi deithio i’r UE ar gyfer busnes, rhaid i chi wirio a oes arnoch angen fisa neu drwydded waith.
- Data – os yw eich nwyddau wedi’u diogelu gan Eiddo Deallusol (ED), bydd angen i chi wirio’r rheolau newydd ar gyfer allforio nwyddau a ddiogelir gan ED o’r DU yn gyfochrog i’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein. Mae perygl y byddwch yn tramgwyddo ar hawliau ED os na fyddwch yn dilyn y rheolau newydd.
- Rhoi Cyfrif ac Adrodd – os oes gan eich busnes bresenoldeb yn yr UE efallai y bydd angen i chi newid sut yr ydych yn rhoi cyfrif ac yn adrodd i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol.
Dylai’r chwe cham gweithredu hyn weithredu fel canllaw i bob busnes yr effeithir arnynt gan y rheolau newydd, gyda chyngor personol, mwy manwl ar gael trwy’r offeryn gwirio wefan Llywodraeth UK.
Dilynwch ni