Cwmni STEM o Ben-y-bont ar Ogwr yn ennill un o Wobrau STEM Cymru

Dydd Mawrth 15 Tachwedd 2022

Mae cwmni STEM o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ennill Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn yng Ngwobrau STEM Cymru 2022.

Cydnabuwyd EESW-STEM Cymru, sydd wedi’i leoli yn Ystâd Ddiwydiannol Waterton, am ei brosiect sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n dymuno dechrau gyrfa yn y maes STEM. Nod yr elusen annibynnol yw helpu pobl ifanc i gysylltu â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a’u galluogi i ennill profiad yn y maes.

Roedd cwmnïau o bob cwr o Gymru yn y seremoni wobrwyo, yn cystadlu am 12 gwobr mewn sawl categori gwahanol.

Hoffai Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr longyfarch y tîm yn EESW-STEM Cymru ar ennill ei wobr!

Dysgwch fwy am y wobr.

<< Yn ôl at Newyddion