Lansiwyd rhaglen fuddsoddi newydd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda’r nod o ehangu busnesau yn y cymoedd Gogleddol.
Bydd y fenter £50m yn helpu i gynorthwyo busnesau a phrosiectau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fydd â’r gallu i gynyddu ffyniant o fewn y rhanbarth, gyda ffocws penodol ar fusnesau sydd â photensial rhagorol ar gyfer twf all drawsnewid economi’r rhanbarth.
Bydd grantiau a buddsoddiadau nodweddiadol ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus yn ymestyn o (ond nid yn gyfyngedig i) £100k i £2m.
Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal dros gyfnod o bum mlynedd gyda’r nod o ddarparu prosiectau yn y blynyddoedd ariannol 2024-2029.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y rhaglen, cysylltwch â NVI@cardiffcapitalregion.gov.uk.
Dilynwch ni