Cyfle olaf i wneud cais ar gyfer Cronfa Adfywio Cymunedol

Dydd Gwener 21 Mai 2021

Does dim llawer o amser ar ôl i wneud cais ar gyfer Cronfa Adfywio Cymunedol y DU. Cynllun gwerth £220 miliwn sy’n ceisio cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i dderbyn ceisiadau ar gyfer y gronfa, ond mae’r dyddiad cau ar y gorwel – rhaid cyflwyno pob cais erbyn 7am ddydd Llun 24 Mai.

Er nad yw bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei gosod yn y 100 lle o flaenoriaeth, mae ceisiadau hyd at £3miliwn yn dal i gael eu croesawu ar gyfer yr ardal.

Wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, rhaid i brosiectau ddarparu gweithgaredd sy’n berthnasol i un o bedwar maes blaenoriaeth:
• Buddsoddi mewn sgiliau
• Buddsoddi mewn busnesau lleol
• Buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd
• Cefnogi pobl i sicrhau cyflogaeth

Anogir ceisiadau o bob rhan o fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er bydd prosiectau’n sgorio’n uwch os ydynt yn unol â’n blaenoriaethau lleol fel y nodwyd yng Nghynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr a’n Cynllun Corfforaethol.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ymgeisio, ewch i wefan yr awdurdod lleol.

Bydd y cyngor wedyn yn cyflwyno rhestr flaenoriaeth o gynigion ar gyfer y fwrdeistref sirol i Lywodraeth y DU eu hasesu cyn cadarnhau’r prosiectau llwyddiannus ddiwedd mis Gorffennaf. Rhaid cyflwyno’r rhain erbyn 31 Mawrth, 2022.

Gall buddsoddi mewn sgiliau gynnwys hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith, ail-hyfforddi, uwchsgilio neu ail-sgilio aelodau o’r gweithlu neu hyrwyddo datblygiad sgiliau a chynhwysiant digidol. Mae enghreifftiau o fuddsoddi mewn busnes lleol yn cynnwys helpu i greu mwy o gyfleoedd swyddi ar gyfer gweithwyr newydd neu bresennol, annog busnesau i ddatblygu eu potensial arloesol a chefnogi mesurau datgarboneiddio.

Gall buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd gynnwys astudiaethau dichonoldeb ar gyfer cyflwyno prosiectau sero-net ac ynni lleol, archwilio cyfleoedd i hyrwyddo datblygiad cymunedol ac adfywiad wedi’i lywio gan ddiwylliant, gwella ardaloedd gwyrdd a chadw asedau lleol pwysig neu hyrwyddo cysylltedd gwledig.

Gall cefnogi pobl i sicrhau cyflogaeth gynnwys helpu unigolion i ymgysylltu â gwasanaethau lleol sydd ar gael yn yr ardal hon, nodi a chyfeirio at rwystrau posibl at gyflogaeth, hybu dyheadau i gael swydd, cymorth i ennill sgiliau sylfaenol neu werthuso dulliau llwyddiannus i helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith.

Mae’r gronfa yn rhagflaenydd i Gronfa Ffyniant a Rennir y DU, a fydd yn cael ei lansio yn 2022 i ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr UE.

Gan fod 90 y cant o’r cyllid sydd ar gael drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU yn gyllid refeniw, ac ond ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon, dylai prosiectau fod ar sail refeniw’n bennaf neu’n gyfan gwbl.

Ni chefnogir prosiectau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar adeiladwaith neu waith atgyweirio sylweddol i adeiladau, prynu tir neu brynu llawer iawn o offer.

Rhaid cyflwyno cynigion gan ddefnyddio Ffurflen Gais Cronfa Adfywio Cymunedol y DU (External link – Opens in a new tab or window) ac yna ei hanfon at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn: 

Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn broses gystadleuol ac ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau gyda chynigwyr. Fodd bynnag, gallwch anfon cwestiynau at 

<< Yn ôl at Newyddion