Derbyn cyllid i wella Parc Gwledig Bryngarw

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

Mae llwybr treftadaeth cerflunwaith a gwelliannau eraill ar y gweill i Barc Gwledig Bryngarw ar ôl i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dderbyn rhagor o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn ei gyfarfod dydd Mawrth 19 Ionawr.

Yn 2019, dyfarnwyd Grant Cyfalaf Safleoedd Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd o £500,000 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu canolfan addysg newydd, ail-ddatblygu’r ganolfan ymwelwyr, sefydlu cyfleusterau i hyrwyddo teithio llesol, plannu coed a chreu pwll bywyd gwyllt.

Nawr, mae grant ychwanegol o £147,000 wedi’i sicrhau gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen gofrestredig sy’n gweithredu’r parc ar ran y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau: “Mae Awen yn bwriadu defnyddio’r cyllid newydd hwn i wella cyfleusterau Parc Gwledig Bryngarw drwy greu llwybr treftadaeth cerflunwaith, ehangu’r llwybr bordiau newydd drwy’r parc, gwella cyfleusterau toiledau, gwneud gwelliannau i’r maes parcio, a gosod panelau solar ar adeiladau, sy’n cyd-fynd â’n strategaeth ynni.

“Mae gwaith yn datblygu’n dda ar gam cyntaf y cynlluniau ac rwy’n falch ein bod wedi sicrhau’r buddsoddiad ychwanegol hwn.”

Mae Parc Gwledig Bryngarw yn un o Byrth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd, sy’n cysylltu preswylwyr ac ymwelwyr â threftadaeth naturiol a diwylliannol Cymoedd de Cymru.

Derbyniodd y Cabinet y cyllid ychwanegol a bydd nawr yn addasu ei gytundeb ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yn unol â hyn.

Yn siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd prif weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sef Richard Hughes: “Pleser gennym yw cael y cyllid ychwanegol hwn gan fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd, a fydd yn ein caniatáu ni i wneud rhagor o welliannau ym Mharc Bryngarw, er budd dros 220,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, a sefydlu ein henw da fel canolfan ranbarthol ar gyfer hamdden awyr agored, addysg a llesiant.

“Mae amseriad y cyllid hwn yn hwb i ni i gyd ond yn enwedig y gymuned leol sydd wedi parhau i gefnogi Parc Gwledig Bryngarw yn ystod y 12 mis diwethaf.”

<< Yn ôl at Newyddion