Lansio gweledigaeth newydd gyffrous i economi Ymwelwyr Cymru yng Nghanolfan Chwaraeon Dwr Rest Bay

Dydd Mawrth 10 Mawrth 2020

Watersports centre

Ym mis Ionawr, datgelodd Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Weinidog dros Dwristiaeth yr Arglwydd Elis-Thomas ddyfodol cyffrous i’r economi ymwelwyr yng Nghymru yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay a agorodd yn ddiweddar.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun pum mlynedd i dyfu’r economi ymwelwyr, gan ganolbwyntio ar gryfderau Cymru, ei thirweddau, diwylliant a lleoedd. Bydd y cynllun, sy’n dwyn yr enw Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-25, yn cael ei ariannu gan ddwy gronfa i gefnogi’r diwydiant.

Cronfa fuddsoddi yw’r Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) sy’n targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei defnyddio i naill ai diweddaru cynnyrch presennol neu greu cynnyrch newydd o ansawdd uchel.

Yn cael ei chefnogi gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG) a Llywodraeth Cymru, mae MSBF ar gael i fusnesau micro a bach gyda llai na 50 o weithwyr cyfwerth ag llawn amser.

Bydd cymorth o rhwng £25,000 a £500,000 yn cael ei ystyried er mwyn:

  • Creu a diogelu swyddi
  • Gwireddu budd economaidd a thwf
  • Cyflwyno ansawdd, arloesi a naws am le

Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, wedi lansio cronfa gwerth £50 miliwn, sef Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru (WTIF) sy’n dod ag arian masnachol a chyllid grant at ei gilydd mewn un pecyn cyfunol o gymorth ariannol i ddarparu buddsoddiad cyfalaf ar gyfer y sector.

Amcan allweddol y gronfa fydd helpu i ariannu buddsoddiad cyfalaf mewn prosiectau twristiaeth sydd â chyfle i greu argraff gadarnhaol ar y sector a datblygu economi Cymru.

Beth fydd y gronfa’n ei ariannu?

  • Bydd yn darparu cyfalaf i fusnesau twristiaeth, rhwng £100,000 a £5,000,000 i brosiectau cymwys
  • Mae’r cyfnod ad-dalu rhwng 10 a 15 mlynedd, a gall gynnwys ysbeidiau talu tymhorol
  • Bydd yn golygu mwy o hyblygrwydd o ran ariannu
  • Bydd yr arian ar gael o’r adeg y bydd prosiect yn dechrau ac fe’i telir fesul cyfran drwy’r cyfnod datblygu
  • Bydd taliadau benthyciad masnachol a grant cymwys yn cael eu cyfuno er mwyn lleihau cost y cyllid drwyddi draw

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Busnes Cymru.

<< Yn ôl at Newyddion