Grant Cychwyn Busnes Pen-y-bont ar Ogwr bellach ar agor ar gyfer ceisiadau

Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023

Cronfa Cychwyn Busnes Pen-y-bont ar Ogwr wedi ail-agor ar gyfer 2023.

Mae’r cynllun grant hyblyg yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau newydd a busnesau micro sydd wedi’u lleoli, neu y bwriedir eu lleoli, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae busnes micro yn fusnes sy’n cyflogi llai na deg gweithiwr, ac sydd â chyfanswm trosiant neu fantolen sy’n llai na £2 miliwn. Caiff ei gyflwyno drwy bartneriaeth rhwng UK Steel Enterprise a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gallwch wneud cais am y grant os ydych yn fusnes newydd, neu os ydych wedi bod yn masnachu ers llai na tair blynedd. Rhaid ichi fod wedi’ch lleoli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac efallai y bydd yn rhaid ad-dalu’r grant os yw’r busnes yn symud oddi yno o fewn blwyddyn o dderbyn y grant.

Mae’r costau cymwys y gellid eu hariannu yn cynnwys:

  • cyfarpar cyfalaf
  • offer cyfrifiadurol
  • datblygu gwefannau
  • gwaith adeiladu ar safle’r busnes

Gallai’r grant ddarparu hyd at 50% o gostau prosiectau cymwys. Y grant lleiaf yw £250 a’r grant mwyaf ar gael yw £4,000, felly cost uchaf y prosiect yw £8000 (ac eithrio TAW). Bydd y grant yn cael ei ddyfarnu ar sail y cyntaf i’r felin, ond mae’n rhaid i bob ffurflen gydymffurfio, a chynnwys y wybodaeth berthnasol, a bydd yn rhaid uwchlwytho ychydig o’r wybodaeth honno.

Noder, ni fydd y cyngor yn ystyried mwy na phum eitem fesul cais.

Bydd y ffenestr ymgeisio ar gyfer y grant yn cau ddydd Llun 20 Mawrth, neu cyn hynny, os yw’r arian yn cael ei ddyrannu.

Dysgwch fwy, gwiriwch eich cymhwystra ac ymgeisiwch.

<< Yn ôl at Newyddion