Lansio marchnad stryd newydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Green Top Events, sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd, wedi dod â’i farchnadoedd bwyd, crefftau a rhoddion artisan i Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, ar ôl llwyddo i gael caniatâd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd nifer o fusnesau lleol yn cynnal stondinau ar y farchnad stryd ac yn galluogi trigolion i gefnogi canol eu tref.
Bydd Marchnadoedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cynnal ar y pedwerydd dydd Sadwrn bob mis ac ar y tri dydd Iau canlynol (rhwng 10am a 4pm):
Bydd Marchnadoedd Porthcawl yn cael eu cynnal ar y trydydd dydd Gwener bob mis yn ogystal â dydd Gwener cyntaf y mis rhwng mis Mai a mis Medi. Bydd y rhain yn cael eu cynnal rhwng 11am a 3pm.
Dysgwch fwy am y marchnadoedd a gwnewch gais am stondin ar gyfer eich busnes.
Dilynwch ni