Gwahoddir busnesau i wneud cais ar gyfer y Wobr Nod Gwyrdd

Dydd Sul 29 Mai 2022

Mae Business in Focus wedi lansio gwobr newydd sbon ar gyfer busnesau i’w helpu ar eu taith i ddod yn fwy eco-gyfeillgar.

Mae’r Wobr Nod Gwyrdd yn rhan o Brosiect Dyfodol Ffocws y Gronfa Adfywio Cymunedol ac fe’i anelir at fusnesau sy’n eu dwy flynedd gyntaf o fasnachu. Bwriad y wobr hon yw helpu busnesau i:

  • Ddysgu sut i ailgylchu eu gwastraff yn effeithiol
  • Defnyddio dŵr yn fwy effeithiol
  • Defnyddio cyflenwyr lleol eu diwydiant
  • Defnyddio cynhyrchion wedi’u hailgylchu ar gyfer eu busnes

Bydd gan fusnesau gyfle i ennill hyd at £5,000 am ddod yn fwy gwyrdd a byddant yn cael mynediad arbennig at weminarau, cefnogaeth wedi’i theilwra a chyfleoedd i rwydweithio.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 1 Gorffennaf.

Rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am y wobr.

<< Yn ôl at Newyddion