Gweminar Rhwydweithio Ar-lein ar gyfer Wythnos Menter Fyd-eang
Dydd Gwener 27 Hydref 2023
Fel rhan o Wythnos Menter Fyd-eang, mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn trefnu gweminar rhwydweithio ar-lein i gyflwyno newyddion diweddaraf y sector i fusnesau.

Bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 15 Tachwedd rhwng 12pm a 1pm a bydd yn cynnwys:
- Cyfleoedd i glywed am newyddion diweddaraf y sector – diweddariad gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ynglŷn â’u hopsiynau cyllid, gan gynnwys y Gronfa Wirfoddoli
- Taflu goleuni ar fentrau cymdeithasol – cewch glywed gan fentrau cymdeithasol a enwebwyd yng ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru.
- Cyfle i gwrdd ag entrepreneuriaid cymdeithasol eraill yn eich rhanbarth.
- Rhannu llwyddiannau a thrafferthion a chyfleoedd i gydweithio.
Cyflwynir y digwyddiad drwy gyfrwng y Saesneg, ond os hoffech chi ddefnyddio’r Gymraeg, gallwch gysylltu â’r digwyddiad yn uniongyrchol.
Anfonwch unrhyw gwestiynau ynghylch y digwyddiad i: sbwenquiries@cwmpas.coop.
Rhagor o wybodaeth a mynnu tocyn.
Dilynwch ni