Gall busnesau ledled y fwrdeistref sirol bellach ymgeisio ar gyfer Gwobrau Busnes Cymru 2023.
Mae’r gwobrau’n dathlu BBaChau o bob cwr o Gymru, wrth iddynt gystadlu am wobrau mwyaf anrhydeddus Cymru.
Wedi’u trefnu gan Siambrau Cymru, dyma ugeinfed flwyddyn y gwobrau, ac mae busnesau’n cael cyfle i ymgeisio am ddim ym mha bynnag ffordd a ddymunant, p’un a ydynt yn dewis ymgeisio dros fideo neu drwy lenwi ffurflen fer.
Mae 10 categori:
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw dydd Gwener 17 Chwefror 2023, a bydd y seremoni’n cael ei chynnal yn ICC Cymru, ddydd Iau 18 Mai 2023.
Dysgwch fwy a chyflwynwch gais ar gyfer y gwobrau.
Dilynwch ni