Cannoedd o geiswyr gwaith yn mynychu ffair swyddi Porthcawl

Dydd Llun 10 Chwefror 2020

Porthcawl jobs fair

Roedd Ffair Swyddi Porthcawl, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn yr High Tide yn llwyddiant ysgubol! Roedd dros hanner cant o stondinau yn cynnwys Park Dean, Dunraven Windows, Domino’s Pizza, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Heddlu De Cymru.

Mynychodd cannoedd o geiswyr gwaith y digwyddiad a bu bron i gant o bobl fynegi diddordeb mewn derbyn cymorth gan Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr i wneud cais am y swyddi ar y diwrnod. Yn gyffredinol, roedd hi’n ddiwrnod llwyddiannus iawn i geiswyr gwaith a phrosesau recriwtio cwmnïau lleol.

<< Yn ôl at Newyddion