Lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd

Dydd Llun 6 Mawrth 2023

Mae Banc Datblygu Cymru wedi lansio’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, a fydd yn helpu busnesau i ddod yn fwy ystyriol o’r amgylchedd.

Mae’r Cynllun Benthyciad Gwyrdd yn gweithio i gynnig pecynnau cymorth wedi’u teilwra i fusnesau ledled Cymru sy’n helpu i fynd i’r afael â’r pwysau mae busnesau’n eu hwynebu, yn ogystal â’r blaenoriaethau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd am adnoddau a buddsoddiad. Mae rhwystrau allweddol fel gwybod lle i fuddsoddi, a sut, bod yn brin o amser, a chael y cyllid angenrheidiol, yn cyfyngu ar fusnesau rhag cymryd camau gweithredu cadarnhaol.

Fel rhan o’r cynllun buddsoddiad, bydd busnesau’n cael:

  • Mynediad at gymorth ymgynghori, wedi’i ariannu’n llawn ac yn rhannol, sy’n eu helpu i ddeall eu llwybr eu hunain at ddatgarboneiddio
  • Cyfraddau llog sefydlog, gostyngol, ar fenthyciadau busnes gwyrdd ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni a gosodiadau gwres carbon isel
  • Cyfalaf hirdymor, gyda gwyliau ad-dalu cyfalaf ymlaen llaw a thymor benthyciad yn gysylltiedig â chyfnod ad-dalu prosiect

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i fusnesau fod wedi’u lleoli yng Nghymru, rhaid iddynt fod wedi bod yn masnachu ers o leiaf dwy flynedd, a meddu ar un set o gyfrifon blynyddol wedi’u ffeilio, a gall fod yn gwmni cyfyngedig, yn fasnachwr unigol neu’n bartneriaeth.

Mae Banc Datblygu Cymru yn rhoi potensial Cymru wrth wraidd ei holl benderfyniadau.

Mae’n ariannu busnesau y mae’n credu y byddai o fudd i Gymru a’i phobl – rhai sy’n fwy na model busnes da neu syniad gwych. Mae’n ariannu busnesau cyfrifol – y rheiny sydd â safon gymdeithasol, foesegol ac amgylcheddol gadarn, yn ogystal ag addewid masnachol go iawn.

Drwy gynnig cyllid cynaliadwy ac effeithiol, mae opsiynau wedi ymddangos yn gyfyngedig, mae’n rhoi bywyd i ddyheadau ac yn tanio posibiliadau ar gyfer pobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt.

Dysgwch fwy a gwnewch gais am y cynllun benthyciad.

<< Yn ôl at Newyddion