Lansio Digwyddiad Te Prynhawn Rwy’n Ferch

Dydd Iau 20 Ebrill 2023

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer digwyddiad rhwydwaith te prynhawn ar gyfer merched sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain ledled y fwrdeistref sirol.

Bydd Rwy’n Ferch yn cael ei gynnal ddydd Gwener 28 Ebrill, rhwng 11am a 2.30pm yn Nhŷ CBS, Aberpennar, Caerdydd. Mae’r digwyddiad yn gyfle cyffrous i ferched entrepreneuraidd yn y byd busnes rwydweithio a datblygu eu sgiliau o fewn y diwydiant.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • Te prynhawn
  • Cyfleoedd i dyfu a rhwydweithio
  • Cyfle i arddangos eich busnes
  • Siaradwyr gwadd

Mae 30 tocyn ar gael am £25 ar hyn o bryd.

Dysgwch fwy ac archebwch eich lle.

<< Yn ôl at Newyddion