Llai na 100 diwrnod tan ddyddiad cau Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Dydd Gwener 9 Ebrill 2021

Gyda llai na 100 diwrnod tan ddyddiad cau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae dinasyddion yr UE sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hatgoffa bod yn rhaid iddynt wneud cais nawr i barhau i fyw a gweithio yn y DU.

Fel rhan o system fewnfudo newydd y DU ar ôl Brexit, mae’r cynllun yn cynnig yr hawl i ddinasyddion 27 aelod-wladwriaeth yr UE, yn ogystal â’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein, barhau i fyw a gweithio yn y DU fel yr oedden nhw’n ei wneud pan oedd y wlad yn rhan o’r UE.

Mae ceisiadau yn rhad ac am ddim ond rhaid eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin, 2021.

Hyd yn hyn, mae bron i 2,000 o geisiadau ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE wedi’u cwblhau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. O’r rheini, mae 1,370 wedi cael statws sefydlog a 570 wedi cael statws cyn-sefydlog, yn dibynnu ar ba mor hir maen nhw wedi byw yma.

Arweinydd y Cyngor, Huw David:

“Rhaid i ddinasyddion yr UE sydd wedi ymgartrefu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac sy’n cyfrannu at fywyd y fwrdeistref sirol weithredu nawr a gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE cyn y dyddiad cau i allu parhau i fyw, gweithio a chael mynediad at wasanaethau yma.

“Mae bron i 2,000 o geisiadau wedi’u cwblhau hyd yn hyn, gan ganiatáu i drigolion sy’n dod o wledydd yn wreiddiol gan gynnwys Lithwania, yr Almaen, Portiwgal a Gwlad Pwyl aros yma fel rhan o’n cymunedau.”

Os oes angen i chi wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, ni fydd y Swyddfa Gartref, Llywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru, na’r cyngor, yn eich hysbysu. Gallwch wirio drosoch eich hun ar dudalen we Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (External link – Opens in a new tab or window).

Os oes angen i chi wneud cais, rhaid i bob aelod o’r teulu gwblhau cais. Mae hyn yn cynnwys plant ac unrhyw un dan 21 mlwydd oed.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais, ewch i dudalen we Paratoi ar gyfer Brexit Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

<< Yn ôl at Newyddion