Mae busnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn elwa o’r cynllun Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr newydd, gyda recriwtiaid newydd yn creu argraff fawr yn eu rolau newydd. Gall cyflogwyr sy’n cynnal y rôl hawlio costau cyflog y lleoliadau newydd am hyd at chwe mis, gan eu cefnogi gyda’u huchelgais i ddatblygu.
Nod prosiect Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr yw cefnogi lleoliadau gwaith cyflogedig, tymor byr ar draws y fwrdeistref sirol gyda golwg ar sicrhau bod cyfranogwyr yn derbyn swydd barhaol o fewn y busnes sy’n cynnal y lleoliad ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Mae lleoliadau ar gyfer 25 awr yr wythnos a byddant yn cael eu cynnal am rhwng 3 a 6 mis, gan ddod i ben cyn diwedd mis Chwefror 2024. Mae yna 22 o gyfranogwyr sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen gyda 12 o bobl eraill yn fod i ddechrau ar eu lleoliad.
Meddai Victoria Clarke, sy’n gweithio fel Cynorthwyydd Gweinyddol Quickstart ar gyfer Gone Solar trwyr rhaglen: “Ers i mi ymuno gyda Gone Solar, rwy’n falch o ddweud fy mod wedi ymgartrefu’n sydyn ac wedi derbyn croeso i amgylchedd positif a chynhwysol.
Meddai Simon Minett, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Challoch Energy, “Fe wnaeth Challoch Energy ddefnyddio Quickstart er mwyn dod o hyd i gynorthwyydd prosiect ar gyfer ein gwaith yn ne Cymru. Mae’r rhaglen yn alinio’n dda gyda’n hathroniaeth o gyflogaeth deg. Fe wnaeth y cyfle hwn ganiatáu i ni recriwtio Jessie Edwards. Roedd yr holl broses yn un hawdd iawn, ac roedd yn caniatáu i ni ddod o hyd i ymgeisydd ardderchog ar gyfer y rôl. Buaswn yn argymell QuickStart yn fawr i gyflogwyr eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”
Cwmnïau sy’n cyflogi rhwng 10 a 250 o weithwyr yw’r rhai sy’n brif ffocws ein hystyriaeth; fodd bynnag, o dan amgylchiadau eithriadol, bydd busnesau sy’n cyflogi llai na 10 staff ond a all, o bosib, gynnig cyflogaeth gyfredol hefyd gael eu hystyried.
Os ydych chi’n gyflogwr sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd â diddordeb mewn cynnal lleoliad, gallwch ddatgan eich diddordeb ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mewn partneriaeth â White Ross Education, Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Dilynwch ni