Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad ar gynllun trwyddedu newydd

Dydd Mercher 1 Chwefror 2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad newydd ar sefydlu cynllun trwyddedu strategol ar gyfer pob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru.

Prif nodau’r ymgynghoriad yw sefydlu chwarae teg i bob busnes llety ymwelwyr sy’n gweithredu yn y sector ar hyn o bryd. Daw’r ymgynghoriad ar ôl pryderon ynglŷn â diffyg chwarae teg i fusnesau, ar gyfer rhai sectorau nad ydynt yn cydymffurfio â rhwymedigaethau statudol cyfredol.

Mae manylion y cynllun trwyddedu arfaethedig ar gyfer gosodiadau gwyliau yn cynnwys:

  • darparu’r mecanwaith i fynd i’r afael â phryderon ynglŷn â chydymffurfio
  • darparu cronfa ddata gynhwysfawr o bwy yn union sy’n gweithredu yn y diwydiant gan nad yw’n bosib pennu faint o fusnesau llety ymwelwyr sydd yng Nghymru, neu mewn unrhyw gymuned benodol, ar hyn o bryd.
  • offeryn gwerthfawr i ddeall graddfa a natur y sector.

Anogir busnesau o fewn y sector i rannu eu barn, gyda’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion ar  17 Mawrth 2023.

Dysgwch fwy a dweud eich dweud.

<< Yn ôl at Newyddion