Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwyliau’r ardrethi ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn cael ei ymestyn am 12 mis arall.
Mae’r pecyn gwerth £380m a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn rhoi gwerthoedd ardrethol hyd at £500,000 i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch, ac elusennau, gyda gwyliau ardrethi busnes syml, blwyddyn o hyd.
Bydd y pecyn rhyddhad, ar y cyd â’r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yn golygu y bydd mwy na 70,000 o fusnesau ledled Cymru yn parhau i dalu dim ardrethi o gwbl yn 2021-22.
Mae’r Gweinidog hefyd wedi ymrwymo i ddarparu rhyddhad ardrethi o 100% i elusennau a busnesau yn y sector hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o dros £500,000.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans: “Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod gan fusnesau yng Nghymru fynediad i’r pecyn cymorth busnes mwyaf hael unrhyw le yn y DU.
“Mae ein dull gweithredu penodol a chyfrifol wedi ein galluogi i neilltuo mwy o gyllid ar gyfer cymorth busnes nag a gawsom gan Lywodraeth y DU. Mae’n bleser gennyf gadarnhau y bydd ein pecyn rhyddhad ardrethi 100% ar gyfer y sectorau hynny sydd wedi dioddef waethaf yn parhau am 12 mis arall, gan ddiogelu swyddi a busnesau ledled Cymru.”
Dywedodd y Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion da iawn a bydd yn rhoi rhywfaint o ryddhad i fusnesau sydd wedi wynebu heriau sylweddol drwy gydol pandemig Covid-19.
“Bydd ymestyn gwyliau’r ardrethi yn rhoi hwb mawr ei angen i fusnesau bach a chanolig sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi ag effeithiau’r feirws.
“Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio dyfarnu’r rhyddhad ardrethi busnes yn awtomatig i bob parti cymwys cyn gynted ag y bo modd, a byddant yn derbyn bil newydd pan fo’r dyfarniad wedi ei roi.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan ardrethi busnes y cyngor.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd cyfnod lleihau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei ymestyn o dri mis arall i 30 Mehefin 2021.
Dilynwch ni