Llywodraeth y DU yn cynnig cymorth i fusnesau osod mannau gwefru

Dydd Mercher 18 Mai 2022

Mae Llywodraeth y DU bellach yn cynnig cymorth i fusnesau helpu i osod mannau gwefru ar gyfer cerbydau.

Mae’r Cynllun Gwefru yn y Gweithle (WCS) yn gynllun seiliedig ar dalebau sy’n cynnig cymorth i ymgeiswyr cymwys gyda chostau prynu a gosod mannau gwefru cerbydau trydan ymlaen llaw.

Mae’r cynllun ar gael ar gyfer y busnesau canlynol:

  • Gwely a Brecwast
  • Gwersyllfeydd
  • Gwestai Bach
  • Elusennau
  • Busnesau llety eraill sydd â llai na 250 o weithwyr.

Fel rhan o’r cynllun, mae’n rhaid i fusnesau ddilyn nifer o ofynion er mwyn bod yn gymwys.

Dysgwch fwy, gwiriwch eich cymhwystra ac ymgeisiwch.

<< Yn ôl at Newyddion