Mae angen busnesau i noddi’r ddawns “Mentro i Freuddwydio”

Dydd Mercher 17 Mai 2023

Mae busnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i gynorthwyi a noddi dawns sydd ar y gweill ar gyfer elusen.

Mae Dawns ac Ocsiwn Mentro i Freuddwydio yn cael eu cynnal ddydd Gwener 7 Gorffennaf yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd i helpu i godi arian ar gyfer prosiect ystafelloedd ward dydd Gofal yr Henoed yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

Nod y prosiect yw helpu timau ward i gynorthwyo anghenion corfforol ac emosiynol eu cleifion, wrth eu hannog i fod yn fwy symudol, i wella eu llesiant a’u rhyngweithio cymdeithasol gyda theulu a ffrindiau.

Mae cyfleoedd i gynorthwyo’r digwyddiad fel busnes yn cynnwys:

  • Pecyn noddi sy’n cynnwys bwrdd am ddim i 10, eich brand ar dudalen wybodaeth y we, caniatâd i ddefnyddio lluniau o’r digwyddiad ar gyfer eich cyfryngau cymdeithasol a mwy. Mae yna dair haen wahanol o nawdd.
  • Nawdd derbyniad diod
  • Cyfrannu at wobrau raffl a/neu ocsiwn y noson

Caiff busnesau’r cyfle i fynychu’r noson hefyd heb ddarparu nawdd, gyda thocynnau’n costio £49.50 yr un, neu fwrdd i 10 am £475.

Bydd y ddawns yn cynnwys pryd tri chwrs, perfformiadau gan Emilie Parry-Williams a chorau Gofal Canser Tenovus ‘Sing With Us’ a disgo.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn noddwr ar gyfer y digwyddiad, e-bostiwch daringtodream@learningpathways.info gyda logo eich cwmni mewn ansawdd uchel a manylion anfonebu.

Am ragor o wybodaeth darllenwch y ffurflen sydd wedi ei hatodi.

<< Yn ôl at Newyddion