Mae Clymblaid Hinsawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnig cyngor ar ynni i fusnesau

Dydd Gwener 2 Rhagfyr 2022

Mae Clymblaid Hinsawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi llunio rhestr o gyngor ar arbed ynni ar gyfer busnesau.

Wrth i dymereddau godi ledled y byd, mae Clymblaid Hinsawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cyhoeddi canllaw ar y cyd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, sy’n manylu ar ddatrysiadau effeithlon o ran ynni cost isel neu heb gostau.

Mae’r canllaw yn trafod deg cam ymarferol sydd wedi’u profi i leihau defnydd a chostau ynni wrth redeg busnes, heb aberthu gwres.

Os oes gan eich busnes chi ddiddordeb mewn ymuno â Chlymblaid Hinsawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd er mwyn helpu i lywio’r gwaith o ddatgarboneiddio de-ddwyrain Cymru, anfonwch e-bost at Rhys.Owen4@cardiff.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Dysgwch fwy a chymerwch gip ar y rhestr lawn.

<< Yn ôl at Newyddion