Disgwyl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol godi ym mis Ebrill 2020

Dydd Mercher 15 Ionawr 2020

Mae disgwyl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol gynyddu ar 1 Ebrill 2020. Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol cyfredol ar gyfer y rhai sy’n 25 oed neu’n hyn yw £8.21, ac mae disgwyl iddo gynyddu 51c i £8.72.

O 1 Ebrill 2020, bydd cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer grwpiau oedran eraill hefyd yn cynyddu:

  •  bydd y rhai rhwng 21 a 24 oed yn cael £8.20 yr awr, sy’n gynnydd o 50c
  •  bydd y rhai rhwng 18 ac 20 oed yn cael £6.45 yr awr, sy’n gynnydd o 30c
  •  bydd y rhai rhwng 16 a 17 oed yn cael £4.55 yr awr , sy’n gynnydd o 20c
  •  bydd y rhai sydd ar y gyfradd i brentisiaid yn cael £4.15 yr awr, sy’n 25c yr awr o gynnyd

Am ragor o wybodaeth ynghylch cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol ewch i wefan GOV.UK.

<< Yn ôl at Newyddion