Gwahoddir ceisiadau gan berchenogion eiddo neu fusnesau mewn un o ganolfannau dinesig bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr am grantiau o hyd at £10,000 er mwyn gwneud addasiadau awyr agored a fydd yn hwyluso cadw pellter cymdeithasol mewn mannau allanol.
Gellir defnyddio’r cyllid tuag at nifer o addasiadau, yn amrywio o ganopïau awyr agored a swigod iglw i ddodrefn a phlanwyr i’r awyr agored.
O dan enw Gwella Eiddo Canol Trefi: Cronfa Adfer COVID-19, mae’n darparu arian hyd at 80 y cant o gyfanswm y costau gwella cymwys – hyd at uchafswm o £10,000. Bydd angen i o leiaf 20 y cant o gyfanswm costau’r prosiect gael eu talu gan yr ymgeisydd.
Mae canolfannau dinesig Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys ardaloedd craidd masnachol Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Porthcawl, Pencoed a’r Pîl.
Dywedodd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Adfywio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae’r cyllid yn cefnogi’r gwelliannau sy’n hwyluso cadw pellter cymdeithasol mewn ardaloedd allanol lle mae cwsmeriaid ac aelodau o’r cyhoedd yn ymgasglu, boed yn aros, yn bwyta neu’n gorffwys. Mae’r cynllun grant hwn ymhlith sawl sydd wedi’u hanelu at gefnogi busnesau yn ystod yr adeg heriol hon.”
Mae eitemau sy’n gymwys i dderbyn y grant yn cynnwys:
Mae’r grant yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol.
Am fwy o fanylion, anfonwch e-bost at y tîm adfywio yn regeneration@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 815209.
Dilynwch ni