Cynlluniau ar gyfer tasglu economaidd newydd wedi’u cymeradwyo

Dydd Gwener 3 Gorffennaf 2020

Photo of the old bridge in Bridgend

Mae cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer creu Tasglu Economaidd newydd ar gyfer y cyfnod ar ôl y pandemig.

Gyda’r nod o helpu’r economi leol i adfer yn dilyn sawl mis o gyfyngiadau symud COVID-19, ac i gyflenwi manteision hirdymor, mae’r cynlluniau’n seiliedig ar fframwaith ‘Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi’ gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn canolbwyntio’n gadarn ar themâu craidd busnes a’r economi, trafnidiaeth, digidoleiddio, a thir y cyhoedd a’r amgylchedd naturiol.

Gyda mewnbwn sylweddol gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, maent yn amlinellu opsiynau strwythuredig ar gyfer helpu’r fwrdeistref sirol i ddod allan o’r cyfyngiadau presennol, ac yn cynnwys rhaglen ymgysylltu economaidd newydd a chyllideb neilltuedig benodol, sef y Gronfa Dyfodol Economaidd, sydd yn eu lle er mwyn cefnogi gweithgareddau a nodau’r tasglu.

Dan y cynigion, bydd y tasglu’n defnyddio gwaith ymchwil a thystiolaeth i asesu effaith pandemig y coronafeirws ar yr economi leol. Caiff y gwaith hwn ei ddefnyddio i ddatblygu cynllun economaidd a fydd yn cynnwys camau gweithredu i helpu busnesau i addasu i’r dirwedd economaidd sy’n newid, gwella’u gwydnwch, a chyflenwi cyfleoedd newydd ar gyfer hyfforddiant, ennill sgiliau a chyflogaeth, yn ogystal â busnesau newydd.

Bydd y cynllun economaidd yn ceisio annog busnesau i fod yn gynhyrchiol a chystadleuol, lleihau anghydraddoldeb o ran incwm, a chefnogi’r broses o bontio i economi ddi-garbon. Bydd hefyd yn datblygu cymunedau a busnesau lleol sy’n iachach, yn decach ac yn fwy cynaliadwy, gan adlewyrchu ymagwedd bresennol Llywodraeth Cymru tuag at ddyfodol buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio: “Bydd y tasglu’n ein galluogi i nodi anghenion busnesau lleol mewn modd effeithlon a chydlynol, a bydd yn cynnwys arweinwyr busnes, sefydliadau sector cyhoeddus lleol, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cynrychiolwyr o sectorau busnes a chyrff masnachol, a rhanddeiliaid allweddol eraill.

“Rwy’n falch y byddwn yn gallu cefnogi’r tasglu â chyllid o £1.6 miliwn yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid i gynyddu ei werth, gan ei ddefnyddio i helpu i ddenu cyllid grant cyfatebol er mwyn helpu i gefnogi’r amgylchedd busnes, ac i gynnal a chreu swyddi lleol.”

<< Yn ôl at Newyddion