PopUp Wales yn gweld llwyddiant parhaus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mawrth 10 Ionawr 2023

Mae canol tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei hadfywio gan weithgareddau a siopau dros dro fel rhan o’r fenter PopUp Wales.

Ers ei lansio, mae PopUp Wales wedi cynorthwyo dros 30 o fusnesau bach ac 20 o sefydliadau gwirfoddol.

tia robbins art and wheelys cafe spaces

PopUp Wales yw’r fenter lle dros dro gyntaf yn Ne Cymru. Mae’r prosiect yn paru lleoedd manwerthu dros dro gydag unigolion a busnesau sydd eisiau lle hyblyg, tymor byr a fforddiadwy.

Mae busnesau a mentrau lleol fel Tia Robbins Art, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Wheely’s Café wedi manteisio ar y cynllun ac yn gweithredu’n llwyddiannus yn eu lleoedd newydd. Mae cyfanswm o dros 10 o fusnesau a mentrau dros dro wedi eu paru ag unedau gwag yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal, mae dros 100% o gyllid wedi ei ddosbarthu i saith o fusnesau bach ac un  sefydliad.

Dywedodd Tia Robbins, o Tia Robbins Art, “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych ac mae’n dangos bod pobl wirioneddol eisiau siopa’n lleol.”

Dywedodd Rachel Bell, Rheolwr y Ganolfan yng Nghanolfan Siopa’r Rhiw, “Mae’r cyllid wedi bod mor gadarnhaol. Mae cael sefydliadau megis Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn un o’r lleoedd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i Ganolfan Siopa’r Rhiw yn y tymor hir. Rwy’n mawr obeithio y bydd yn parhau.”

Dywedodd Chris Pritchard o Wheely’s Cafe, “Me PopUp Wales wedi bod yn wirioneddol wych a chefnogol, ac mae’r digwyddiadau yn y farchnad wedi bod yn dda i fusnes a dylent gael eu cynnal bob penwythnos.”

Mae’r fenter yn cynnal digwyddiadau ar draws canol y dref hefyd ac yn ddiweddar mae wedi cynnal digwyddiadau’r Nadolig ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys gweithdai crefft a cherddoriaeth fyw.  Roedd y digwyddiadau yn llwyddiant ysgubol gyda’r holl weithdai rhad ac am ddim yn llawn, a’r adborth yn gadarnhaol dros ben.

Mae Tara Tarapetian yn gweithio i Urban Foundry, sydd wedi darparu’r fenter ochr yn ochr â Chyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd Tara: “Rydym wedi bod wrth ein bodd yn gweithio gyda Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr a Chanolfan Siopa’r Rhiw gan ein bod wedi gallu darparu lleoedd dros dro i fusnesau a sefydliadau newydd allu profi eu busnes neu syniad heb fath o risg, mewn lleoliad gwych yng nghalon tref Pen-y-bont ar Ogwr. Ar yr un pryd, mae’r gweithgareddau crefft a cherddoriaeth wedi ychwanegu at fywiogrwydd yr ardal ac ychwanegu rhywbeth ychydig yn wahanol i’r profiad siopa.”

Dysgwch fwy am y fenter PopUp Wales.

 

<< Yn ôl at Newyddion