Canlyniadau Arolwg Busnes Rhanbarthol Covid-19

Dydd Llun 9 Tachwedd 2020

Fel rhan o gefnogaeth barhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr tuag at fusnesau yn y pandemig Covid-19 presennol, yn ddiweddar ymgymerasom ag arolwg yn gofyn a oes gan fusnesau yr holl wybodaeth a chefnogaeth sydd eu hangen arnynt i redeg eu busnesau yn ddiogel.

Daeth yr arolwg i ben ar 19 Hydref, a gallwn nawr rannu’r canlyniadau.

Cafodd yr arolwg, a gynhaliwyd ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, ei anfon yn uniongyrchol at fusnesau drwy wahanol rwydweithiau yn yr awdurdod lleol, yn ogystal â’i hysbysu ar gyfryngau cymdeithasol. Cwblhawyd cyfanswm o 210 o arolygon ar-lein.

Gweler isod rai o brif themâu canlyniadau’r arolwg:

  • Dywedodd 86% eu bod wedi cael yr holl wybodaeth/canllawiau Covid-19 a oedd eu hangen arnynt i sicrhau diogelwch eu staff, gyda 83% yn dweud eu bod wedi cael yr holl wybodaeth/canllawiau Covid-19 a oedd eu hangen arnynt i sicrhau diogelwch eu cwsmeriaid/cleientiaid
  • Dywedodd 75% eu bod wedi cael yr holl wybodaeth a oedd ei hangen arnynt i weithredu Profi, Olrhain, Diogelu effeithiol ar gyfer eu staff, gyda 74% yn dweud eu bod wedi cael yr holl wybodaeth a oedd ei hangen arnynt i weithredu Profi, Olrhain, Diogelu effeithiol ar gyfer eu cwsmeriaid/cleientiaid
  • Dywedodd 78% nad oeddynt wedi profi unrhyw anawsterau wrth ddehongli a gweithredu gwybodaeth sy’n berthnasol i’w busnes ar gyfer staff, gyda 71% yn dweud nad ydynt wedi profi unrhyw anawsterau wrth ddehongli a gweithredu gwybodaeth sy’n berthnasol i’w busnes ar gyfer cwsmeriaid/cleientiaid
  • Dywedodd 82% o ymatebwyr nad oeddynt yn rhagweld unrhyw anawsterau yn y dyfodol wrth ddehongli a gweithredu gwybodaeth sy’n berthnasol i’w busnes ar gyfer eu staff, gyda 86% yn dweud nad ydynt yn rhagweld unrhyw anawsterau yn y dyfodol wrth ddehongli a gweithredu gwybodaeth sy’n berthnasol i’w busnes ar gyfer cwsmeriaid/cleientiaid                                        
  • Dywedodd y rhan fwyaf o fusnesau eu bod wedi defnyddio gwybodaeth yn ymwneud â Covid-19 i redeg eu busnes ar gyfer staff a chwsmeriaid/cleientiaid drwy wefan Llywodraeth Cymru, pori ar-lein a gwefannau awdurdod lleol a negeseuon e-bost ganddynt
  • Dywedodd busnesau y byddai’n ddefnyddiol cael canllawiau a gwybodaeth gliriach a chyson a oedd yn caniatáu amser i baratoi, ac roedd rhai yn galw am ddiweddariadau rheolaidd dros e-bost. Dywedasant y byddai’n ddefnyddiol cael cymorth ariannol i fusnesau sydd wedi’u colli, costau staff a chostau gweithredu mesurau

Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: “Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd amser i gymryd rhan yn yr arolwg – mae’n galonogol bod y rhan fwyaf o fusnesau a gymerodd ran wedi dweud eu bod wedi cael yr holl wybodaeth a chanllawiau sydd eu hangen arnynt i redeg eu busnes yn ddiogel yn y cyfnod heriol hwn.

“Cafodd cyfres o grantiau newydd eu lansio gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol yn sgil cyfyngiadau’r cyfnod clo.

“Rydym yn annog busnesau yn y fwrdeistref sirol nad ydynt yn glir ynghylch eu cyfrifoldebau neu’r cymorth ariannol sydd ar gael i gysylltu â ni.”

Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 21 Medi a 19 Hydref.

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r cymorth i fusnesau, ewch i wefan Busnes Cymru neu ewch i wefan cymorth i fusnesau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

I gofrestru i e-fwletin Cymru Iach ar Waith ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chanllawiau ac adnoddau, anfonwch e-bost at WorkplaceHealth@wales.nhs.uk gyda ‘Cofrestru i’r E-Fwletin’ ym mhennawd yr e-bost.

<< Yn ôl at Newyddion