Gwyliau rhag talu rhent ar gyfer busnesau bach

Dydd Iau 19 Mawrth 2020

Photo of Maesteg town centre

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gwyliau rhag talu rhent am dri mis i fentrau bach a chanolig (BBaChau) sy’n llogi safleoedd gan yr awdurdod lleol.

Byddai’r mesur yn cwmpasu masnachwyr ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr a Marchnad Awyr Agored Maesteg yn ogystal â thenantiaid unedau cychwynnol diwydiannol sy’n eiddo i’r Cyngor.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: “Rydym yn deall y pryderon sydd gan fusnesau a’r sioc sydyn y maent yn ei phrofi oherwydd y mesurau cynyddol sy’n cael eu rhoi ar waith mewn perthynas ag achosion coronafeirws.
“Mae busnesau yn mynd i’r wal y funud hon, a nod y gwyliau rhag talu rhent yw cynnig achubiaeth i’r rheiny sydd ei hangen – mae rhent yn rhan fawr o dreuliau’r busnesau hyn.

“Mae’r rhain yn amgylchiadau gwirioneddol eithriadol – byddwn yn gwneud ein gorau glas i gefnogi busnesau lleol yn ystod y cyfnod hwn. Dilynwch gyngor ac arweiniad Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r Ffederasiwn Busnesau Bach.

“Rydym eisiau tawelu meddyliau ein trigolion y byddwn, gyda’n partneriaid, yn cymryd yr holl gamau priodol i gefnogi llesiant ein cymunedau hyd gorau ein gallu.”

Bydd y cyngor yn adolygu’r polisi dros dro ymhen tri mis.

<< Yn ôl at Newyddion