Radio manwerthu ar gyfer siopa mwy diogel

Dydd Llun 10 Chwefror 2020

Mae system radio Storenet sy’n gweithredu yng nghanol tref Maesteg ar fin mynd yn ddigidol. Gyda hyn, bydd bob siop sy’n cymryd rhan yng nghanol y dref yn cael system radio digidol newydd gan M.R.S Communications sy’n gweithredu Storenet.

Mae’r system, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Heddlu De Cymru a Chymdeithas Busnes Maesteg, yn cysylltu manwerthwyr sy’n cymryd rhan drwy radio y mae aelod o staff ar lawr y siop yn ei gario.

Y nod yw atal a chanfod digwyddiadau o ladrad manwerthu, gan gynyddu elw manwerthwyr a rhoi tawelwch meddwl i staff manwerthu drwy fotwm larwm ar y radio y gellir ei bwyso mewn argyfwng. 

I gael gwybod mwy am Storenet, cysylltwch â Sarah Ridings yn M.R.S Communications drwy e-bost: sarah.ridings@mrscomms.co.uk neu drwy ffonio: 02920 810810.

<< Yn ôl at Newyddion