Rhyddhau cynllun gweithredu Costau Byw ar gyfer busnesau

Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023

Mae Business in the Community (BITC) wedi lansio Cynllun Gweithredu Costau Byw i fusnesau ei ddefnyddio yn ystod yr argyfwng presennol.

Mae’r cynllun gweithredu 12-cam wedi’i gynllunio’n benodol i helpu busnesau ledled y fwrdeistref sirol wneud newidiadau gwell i’w harferion busnes yn ystod yr argyfwng.

Mae’r camau’n cynnwys:

  • Helpu i gefnogi gweithwyr drwy dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol a sicrhau opsiynau gweithio hyblyg
  • Cefnogi cwsmeriaid drwy gynnig cynnyrch fforddiadwy ac arloesol
  • Cefnogi eich cymuned leol drwy hyrwyddo gwirfoddoli a rhannu nwyddau gyda sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl fregus
  • Sicrhau bod cyflenwyr yn cael tâl teg, ac yn cael eu talu’n brydlon, a defnyddio llai o ynni

Mae BITC yn cynnal digwyddiad am ddim i drafod cymorth pellach ar gyfer busnesau, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru. Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 15 Chwefror 2023 ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd – Mynnwch eich lle ar-lein.

Dysgwch fwy a lawrlwythwch y daflen 12 galwad i weithredu.

<< Yn ôl at Newyddion