Ysgogi’n Rhanbarthol yn dod i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Gwener 3 Tachwedd 2023

Mae Sioe Deithiol Ysgogi’n Rhanbarthol yn dod i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddiwedd y mis.

Mae’r sioe deithiol yn ddigwyddiad wedi’i deilwra ar gyfer perchnogion busnes neu uwch reolwyr Mentrau Bach a Chanolig o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cynhaliwyd y digwyddiad blaenorol ym Margoed, ac maent yn cael eu cynnal gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n helpu i bwysleisio rolau arloesedd a man gweithio o fewn y sector, yn ogystal â thynnu sylw at fusnesau sydd wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher 29 Tachwedd yng ngwesty Coed-Y-Mwstwr, rhwng 7.30am a 9.30am, a bydd yn cynnwys:

  • Bwffe brecwast mawr, hael
  • Cyfle i rwydweithio gyda busnesau eraill
  • Cyfle i glywed gan siaradwyr fel Kellie Beirne (Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd), Joanna Pontion (Fortium Technologies), Phil Sampson (PwC), George Richards (CBRE) ac Arweinydd y Cyngor, Huw David

Dysgwch fwy a mynnwch eich tocynnau.

<< Yn ôl at Newyddion