Busnes o Ben-y-bont ar Ogwr yn elwa o fynd yn ddigidol

Dydd Mawrth 10 Mawrth 2020

Walker Chiropractic

Agorodd busnes lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Walker Chiropractic, eu hail glinig yn yr ardal ar ôl sylwi bod galw uchel am wasanaethau ceiropracteg.

Fodd bynnag, gyda mwy nag un practis i’w redeg, roedd angen dirfawr ar Martyn a Sarah Walker i reoli eu dyddiadur prysur a gwneud bywyd yn haws i’w cwsmeriaid.

Nid oedd y perchnogion busnes yn rhy sicr lle i ddechrau o ran mynd yn ddigidol, felly gwnaethant ychydig o ymchwil a threfnu lle ar ddigwyddiad Cyflymu Cymru i Fusnesau, ‘gwerthu gyda’r cyfryngau cymdeithasol’.  Canfu’r ddau y digwyddiad yn ddefnyddiol, ond cytunasant fod sesiynau un-i-un gydag ymgynghorydd digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau wir wedi agor eu llygaid i sut y gall mynd yn ddigidol wella’r ffordd yr ydych yn rhedeg eich busnes.

Mae mynd yn ddigidol wedi caniatáu i’r perchnogion busnes ddatrys problem yng nghyswllt amser; bellach mae gan gwsmeriaid fynediad at system archebu ar-lein sy’n golygu nad oes rhaid iddynt ymweld â’r practis. Mae marchnata awtomataidd sy’n defnyddio system CRM yn cadw cwsmeriaid wedi’u hymgysylltu a hefyd yn cefnogi atgyfeiriadau sydyn. Yn ogystal â hyn, mae’r practis hefyd wedi mabwysiadu cofnodion iechyd digidol, sy’n golygu llai o amser yn gweinyddu a mwy o ffocws ar ofalu am y claf.

Mae’r clinig wedi gweld cynnydd o 50% mewn ymholiadau gan gwsmeriaid o fewn yr ychydig wythnosau cyntaf i gyflwyno elfennau digidol gwahanol.

Os ydych chi’n teimlo y gallai eich busnes elwa o fynd yn ddigidol, yna cysylltwch â Cyflymu Cymru i Fusnesau drwy eu gwefan.

<< Yn ôl at Newyddion